CODI GWEITHDAI A SWYDDFAI NEWYDD AR GYFER
CEIRCH MASNACHOL CIBYN CYF.
Russell-Hughes Cyf. wedi ei gyfarwyddo gan Cerbydau Masnachol Cibyn Cyf. cynnal Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio ar gyfer y datblygiad arfaethedig uchod.
Rhoddir rhybudd bod Cerbydau Masnachol Cibyn Cyf. yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer codi adeilad gweithdy/swyddfa newydd, adeilad gweithdy/weldio ac uned golchi cerbydau ynghyd â mannau ategol eraill.
Gan fod y datblygiad arfaethedig wedi'i ddiffinio fel datblygiad mawr, mae angen Ymgynghoriad Cyn-ymgeisio fel yr amlinellir yn Rhan 1A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 cyn y gellir cyflwyno cais cynllunio llawn ar gyfer y cynnig.
DISGRIFIAD O'R CYNLLUN ARFAETHEDIG
Mae'r cais cynllunio ar gyfer codi adeilad gweithdy/weldio newydd ac adeiladau gweithdy/swyddfa ynghyd ag uned golchi cerbydau a mannau ategol eraill ar dir o fewn Ystâd Ddiwydiannol Cibyn. Mae'r safle wedi'i leoli o fewn ffin datblygu Caernarfon ac mae hefyd yn Safle Cyflogaeth Ddiogel dynodedig.
Mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys yr adeiladau a'r mannau ategol canlynol:
- Adeilad Swyddfa a Gweithdy Newydd – Maint yr Adeilad 1680m2
- Gweithdy ac Uned Weldio - Ôl-troed yr Adeilad 363m2
- Uned Golchi Cerbydau - Ôl-troed yr adeilad 160m2
- Ardal Storio Allanol – 500m2
- 15 o Faeau Parcio i Gerbydau HGV
- 40 o leoedd parcio gan gynnwys 3 bae parcio i bobl anabl ac 8 bae gwefru cerbydau trydan
Mae'r adeiladau wedi'u lleoli o fewn ffiniau safle'r hen ladd-dy ar Ystâd Ddiwydiannol Cibyn.
DOGFENNAU DRAFFT CAIS CYNLLUNIO
Lluniad Cynllun Safle Presennol
Lluniad Cynllun Safle Arfaethedig
Lluniad Cynllun Draenio a Chyfleustodau
Lluniad Cynlluniau Llawr Swyddfa a Gweithdy Arfaethedig
Lluniad Drychiadau Swyddfa a Gweithdy Arfaethedig
Lluniad Cynlluniau Llawr Swyddfa a Gweithdy Arfaethedig
Lluniad Arfaethedig o'r Uned Golchi Cerbydau
SYLWADAU AR Y CAIS HWN
Rhaid gwneud pob sylw ar y datblygiad arfaethedig hwn erbyn 17 Tachwedd 2023 drwy'r dulliau canlynol:
E-bost: info@russellhughes.co.uk
Post: 56 Stryd y Bont, Llangefni, Ynys Môn LL77 7HH